Gwybodaeth i Wirfoddolwyr Newydd
Diolch am gofrestru fel gwirfoddolwr gyda Chyfoeth Y Coed! Edrychwn ymlaen at cwrdd â chi. Pan fyddwch yn gwirfoddoli gyda ni, gofynnwn i chi ddilyn ein Canllawiau Cymryd Rhan.
Yn gyntaf, cofrestru
Mae angen i bawb sy'n gwirfoddoli gyda ni gofrestru’n gyntaf. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, rydych yn gymwys i wirfoddoli ar gyfer unrhyw waith, ac nid oes rhaid i chi gofrestru eto. Gallwch fynd i'r dudalen Gwirfoddoli i adnewyddu eich cofrestriad.
Cael gwybod am gynaeafau
Ar gyfer cynaeafau mawr, byddwn yn anfon e-bost gyda disgrifiad o'r cynhaeaf a dolen i'r dudalen Cynaeafau.
Nid ydym yn anfon e-bost ar gyfer cynaeafau llai, ond maent yn cael eu postio ar y dudalen Cynaeafau. Rydym weithiau'n darganfod bod ffrwythau'n aeddfed ac yn barod i'w tynnu ar fyr rybudd, felly gwiriwch eich e-bost neu'r dudalen cynaeafau yn rheolaidd.
Byddwn hefyd yn postio pob cynhaeaf ar ein tudalen grŵp Facebook.
Cofrestru ar gyfer cynhaeaf
Caiff cyfleoedd tynnu ffrwythau eu rhoi ar y dudalen cynaeafau. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen, ac yna teipiwch eich enw. Mae angen i chi ei deipio'n union fel y gwnaethoch pan wnaethoch chi gofrestru gyntaf, fel bod eich enw’n cyfateb â’r cofnod yn ein cronfa ddata. Yna cliciwch ar y botwm sy'n dweud 'Cofrestru ar gyfer y cynhaeaf hwn'.
Sut fydda i'n gwybod ble mae'r cynhaeaf?
Ar ôl i chi gofrestru, fe welwch dudalen gyda chyfeiriad y cynhaeaf ac unrhyw wybodaeth ddefnyddiol arall, megis a oes angen i chi wisgo trowsus trwchus i'ch diogelu rhag danadl poethion (“stinging nettles”). Dyma'r unig le y mae'r cyfeiriad ei hun yn ymddangos ar y wefan felly ysgrifennwch ef i lawr neu ei argraffu.
Byddwch hefyd yn cael e-bost gyda'r un wybodaeth a dolen yn ôl i'r dudalen we honno. Os ydych am edrych ar eich hanes o gymryd rhan neu drefnu i’r e-bost gael ei anfon eto, ewch i'r tab 'Gwirfoddoli' ar frig y dudalen hon.
Canslwch os na allwch ddod!
Os bydd eich amserlen yn newid, canslwch fel y gall rhywun arall gymryd eich lle. Bydd yr e-bost a gewch yn cynnwys dolen lle gallwch ganslo. Bydd eich cwrteisi hefyd yn ein helpu i drefnu'r nifer cywir o wirfoddolwyr ar gyfer y cynnyrch sydd ar gael.
Pan fyddwch yn cyrraedd
Pan fyddwch yn cyrraedd, byddwn yn rhoi hyfforddiant diogelwch ac unrhyw wybodaeth angenrheidiol am yr eiddo.
Rhaid i bob oedolyn sy'n dod i’r cynhaeaf fod yn wirfoddolwr cofrestredig a rhaid iddo fod wedi cofrestru ar-lein ar gyfer y cynhaeaf hwnnw. Nid oes angen i blant gofrestru fel gwirfoddolwr na chofrestru ar gyfer cynhaeaf, ond rhaid iddynt gael eu goruchwylio gan oedolyn sydd ar y rhestr waith. Fodd bynnag, gofynnwn i chi gadw at gymhareb o un plentyn i un oedolyn a goruchwylio eich plentyn bob amser gan y gall tynnu ffrwythau o goed tal gyda pholion tynnu fod yn beryglus. Byddwn yn ceisio trefnu o leiaf un cynhaeaf i deuluoedd ar safle gyda choed llai.
Dyna'r holl wybodaeth sylfaenol! Daliwch ati i ddarllen er mwyn cael atebion i gwestiynau sydd gan wirfoddolwyr yn aml am raglen Cyfoeth Y Coed.
Rydym yn dibynnu arnoch chi!
Ar gyfer pob cynhaeaf rydym yn dibynnu ar gymorth gan wirfoddolwyr sy'n barod i roi o’u hamser. Drwy wirfoddoli gyda ni, rydych chi'n helpu i sicrhau bod ffrwythau ffres lleol ar gael i bobl y gall ffrwythau fod yn rhy ddrud iddynt brynu mewn siopau fel arall. Rydym yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud yn fawr iawn.
Pwy sy’n rhedeg Cyfoeth Y Coed?
Mae Cyfoeth Y Coed yn un o brosiectau Canolfan yr Amgylchedd. Ein cenhadaeth yw cysylltu pobl â bwyd a fyddai fel arall yn mynd i wastraff, lleihau newyn ledled yr ardal, ac adeiladu ymdeimlad o gymuned. Rheolwr y prosiect yw Anna Williams; gallwch gysylltu â hi yn anna@cyfoeth.org.
Fel sefydliad dielw rydym yn dibynnu ar roddion i gefnogi ein hymdrechion. Os ydych chi'n rhannu ein cenhadaeth ac eisiau helpu, cliciwch y botwm 'Cyfrannu' ar ein Hafan.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy ngwybodaeth gyswllt yn newid?
Os ydych yn newid gwybodaeth gyswllt fel eich cyfeiriad e-bost neu'ch rhif ffôn, ewch i'r dudalen Gwirfoddoli a chlicio ar 'Diweddaru'. Os oes angen i chi newid enw, ysgrifennwch at Dick Yates yn byhharvest@harvestweb.org.
Pam na fydd y dudalen gofrestru yn gadael i mi fynd ar y rhestr waith?
Efallai eich bod wedi teipio eich enw'n wahanol i'r hyn a wnaethoch pan wnaethoch chi gofrestru gyntaf. Os nad ydych yn gallu cael mynediad i'r rhestr waith o hyd, cysylltwch â Dick yn byhharvest@harvestweb.org.
Anghofiais ysgrifennu cyfeiriad y cynhaeaf i lawr!
Mae'r e-bost a gewch ar ôl i chi gofrestru yn cynnwys dolen i wybodaeth am y cynhaeaf, gan gynnwys y cyfeiriad. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y cynhaeaf ond wedi colli'r e-bost hwn, cliciwch ar y botwm 'Gwirfoddoli' ar frig y dudalen hon. Cliciwch y botwm yno i gael e-bost arall. Os cewch unrhyw drafferth, cysylltwch â Dick Yates yn byhharvest@harvestweb.org.
Sut mae cynaeafau'n cael eu cynllunio?
Rydym yn cyfarfod neu'n siarad â pherchnogion coed ac yn trafod yr eiddo a logisteg cynaeafu. Pennir maint y rhestr waith gwirfoddolwyr cynaeafu yn ôl nifer y coed, nifer y gwirfoddolwyr a'r staff sydd ar gael, a lleoedd parcio. Weithiau, rydym yn cael gwybod bod ffrwythau'n aeddfed a’u bod yn barod i'w tynnu gydag ychydig iawn o rybudd. Yn yr achosion hyn, dim ond ychydig ddyddiau fydd gennym i gynllunio cynaeafau.
Oes angen dod ag unrhyw beth i'r cynhaeaf?
- Dewch â dŵr i'w yfed, a gofalwch am unrhyw anghenion ystafell ymolchi cyn cyrraedd. Fel arfer, ni fydd gennym fynediad i dŷ bach.
- Dewch ag eli haul os yw'n heulog, neu os gallai fod yn heulog.
Beth ddylwn i ei wisgo?
Awgrymwn grys-T â llewys hir, trowsus hir ac esgidiau caeedig cyfforddus.
A yw'r ffrwythau wedi'u chwistrellu â chemegion?
Yn anaml iawn. Gofynnwn bob amser i berchennog yr eiddo a yw ei ffrwythau wedi'u chwistrellu â chemegion nad ydynt yn organig yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac rydym yn cynnwys y wybodaeth honno pan fyddwn yn trefnu'r cynhaeaf.
Oes rhaid i mi aros am y cyfnod cyfan?
Gofynnwn i wirfoddolwyr gynllunio i aros am hyd cyfan y cynhaeaf er ein bod yn cydnabod na all unrhyw un gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd ac efallai y cewch eich galw i ffwrdd. Gan fod lle wedi'i gyfyngu yn y rhan fwyaf o safleoedd cynaeafu, gofynnwn i chi gofrestru i wirfoddoli i gynaeafu dim ond pan allwch gyrraedd ar amser ac aros am y rhan fwyaf o'r amser nes bod y ffrwythau'n cael eu tynnu.
Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf gwestiynau eraill?
Edrychwch ar y dudalen Cysylltu â Ni. Rydym bob amser yn hapus i helpu.